Cefndir a Diben
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”) yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus yng Nghymru. Yn benodol, mae’r Ddeddf yn sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i ddisodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”).
Yn unol ag adran 148(1) o’r Ddeddf, daeth darpariaethau penodol i rym ar 9 Medi 2022, y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol. Mae adran 148(2) yn darparu y daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024 (“y Gorchymyn”) yw’r pumed gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 148(2).
Mae Rhannau 2 a 3 o’r Gorchymyn yn dod ag amryw ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 ac 1 Ebrill 2025 yn y drefn honno. Daw rhai darpariaethau i rym yn llawn, daw rhai i rym i'r graddau a nodir ac mae rhai yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol neu drosiannol.
Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ddarfodol sy’n ymwneud â’r Ddeddf ac â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig arall. Yn ôl y Nodyn Esboniadol, addasiadau dros dro yw’r rhain i ddeddfwriaeth sy’n codi mewn cysylltiad â diddymu CCAUC a’r trawsnewid i’r system gofrestru a sefydlwyd o dan Ran 2 o’r Ddeddf.
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â diddymu CCAUC.
Gweithdrefn
Dim gweithdrefn
Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
1. Nodir bod y Gorchymyn, nad yw’n ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn graffu gan y Senedd, yn gwneud darpariaeth ddarfodol a throsiannol helaeth, gan gynnwys mewn perthynas â deddfwriaeth sylfaenol.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
18 Medi 2024